Exodus 6

1Ond dyma'r Arglwydd yn ateb Moses, “Cei weld beth fydda i'n ei wneud i'r Pharo. Bydda i'n defnyddio fy nerth i'w orfodi e i'w gollwng nhw'n rhydd, a bydd e'n eu gyrru nhw allan o'i wlad!”

Comisiwn Moses

2Meddai Duw wrth Moses, “Fi ydy'r Arglwydd.
6:2 Hebraeg,  Iahwe – enw Duw
3Gwnes i ddangos fy hun i Abraham, Isaac a Jacob fel y Duw sy'n rheoli popeth
6:3 Hebraeg,  El Shadai
. Ond doeddwn i ddim wedi gadael iddyn nhw fy nabod i wrth fy enw, yr Arglwydd.
4Roeddwn i wedi gwneud ymrwymiad i roi gwlad Canaan iddyn nhw, sef y wlad lle roedden nhw'n byw fel mewnfudwyr. 5Dw i wedi clywed pobl Israel yn griddfan am fod yr Eifftiaid wedi eu gwneud nhw'n gaethweision, a dw i wedi cofio fy ymrwymiad iddyn nhw. 6Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Fi ydy'r Arglwydd. Dw i'n mynd i ddod â chi allan o'r Aifft. Fyddwch chi ddim yn gaethweision i'r Eifftiaid o hyn ymlaen. Dw i'n mynd i'ch achub chi rhag cael eich cam-drin ganddyn nhw. Dw i'n mynd i ddefnyddio fy nerth i'ch rhyddhau chi, ac yn mynd i'w cosbi nhw. 7Dw i'n mynd i'ch gwneud chi yn bobl i mi fy hun. Fi fydd eich Duw chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Arglwydd eich Duw wnaeth eich achub chi o fod yn gaethweision yn yr Aifft. 8Bydda i'n dod â chi i'r wlad wnes i addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob – eich gwlad chi fydd hi wedyn! Fi ydy'r Arglwydd.’”

9Dyma Moses yn dweud hyn i gyd wrth bobl Israel, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando arno. Roedden nhw mor ddigalon am eu bod yn cael eu cam-drin mor ofnadwy.

10Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 11“Dos at y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad.” 12Ond dyma Moses yn ateb yr Arglwydd, “Dydy pobl Israel ddim yn fodlon gwrando, felly pam ddylai'r Pharo wrando arna i? Dw i'n siaradwr gwael.” 13Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron fod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at bobl Israel ac at y Pharo, am eu bod i arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft.

Achau Moses ac Aaron

14Dyma enwau penaethiaid teuluoedd Israel:

Meibion Reuben, mab hynaf Israel: Hanoch, Palw, Hesron a Carmi – enwau teuluoedd o lwyth Reuben.
15Meibion Simeon: Iemwel, Iamin, Ohad, Iachin, Sochar a Saul (mab i ferch o Canaan) – enwau teuluoedd o lwyth Simeon.
16A dyma enwau meibion Lefi (bob yn genhedlaeth): Gershon, Cohath a Merari (Roedd Lefi wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)
17Meibion Gershon bob yn deulu: Libni a Shimei
18Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel (Roedd Cohath wedi byw i fod yn 133 mlwydd oed.)
19Meibion Merari: Machli a Mwshi. Dyma deuluoedd llwyth Lefi (bob yn genhedlaeth).
20Roedd Amram wedi priodi Iochefed, chwaer ei dad, a nhw oedd rhieni Aaron a Moses. (Roedd Amram wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)
21Meibion Its'har oedd Cora, Neffeg a Sichri.
22Meibion Wssiel oedd Mishael, Eltsaffan a Sithri.
23Roedd Aaron wedi priodi Eliseba (merch Aminadab, a chwaer i Nachshon), a nhw oedd rhieni Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.
24Meibion Cora oedd Assir, Elcana ac Abiasaff. Eu disgynyddion nhw oedd y Corahiaid.
25Roedd Eleasar (mab Aaron) wedi priodi un o ferched Pwtiel, a nhw oedd rhieni Phineas. Dyma benaethiaid y teuluoedd o lwyth Lefi.

26Y rhain oedd yr Aaron a'r Moses wnaeth yr Arglwydd siarad â nhw, a dweud, “Dw i am i chi arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft mewn rhengoedd trefnus.” 27Nhw oedd y rhai aeth i siarad â'r Pharo, brenin yr Aifft, a mynnu ei fod yn gadael i bobl Israel fynd allan o'r Aifft – yr un Moses ac Aaron.

28Pan siaradodd yr Arglwydd gyda Moses yn yr Aifft, 29dwedodd wrtho, “Fi ydy'r Arglwydd. Dw i eisiau i ti ddweud wrth y Pharo, brenin yr Aifft, bopeth dw i'n ei ddweud wrthot ti.” 30Ond dyma Moses yn ateb yr Arglwydd, “Dw i'n siaradwr gwael! Pam ddylai'r Pharo wrando arna i?”

Copyright information for CYM